Feature Note: After successfully editing the lyric, we will review your submission. The review process may take up to one week.

Current Song

Alex Hughes
Rachel Jenkins

Current Lyrics

Nid wy'n gofyn bywyd moethus, Aur y byd na'i berlau mân. Gofyn wyf am galon hapus, Calon onest, calon lân. Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na'r lili dlos. Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos. Pe dymunwn olud bydol, Hedyn buan ganddo sydd. Golud calon lân, rinweddol, Yn dwyn bythol elw fydd. Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na'r lili dlos. Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos. Hwyr a bore fy nymuniad, Gwyd i'r nef ar adain cân. Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad, Roddi i mi galon lân. Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na'r lili dlos. Dim ond calon lân all ganu, Canu'r dydd a chanu'r nos. Amen!
Minimum 10 characters required
Cancel